top of page

Gwaith newydd ac arddangosfeydd

To read the article in English – click here.

Fy nod yn y chwe mis diwethaf yw canolbwyntio ar ddatblygu gwaith newydd a gwneud ceisiadau am fwy o arddangosfeydd yng Nghymru a'r DU. Rwyf wedi bod yn gweithio ar rai darnau newydd sy'n debyg o ran ysbrydoliaeth i'r casgliad blaenorol ond yn fwy onglog ac wedi'u hysbrydoli'n uniongyrchol gan geometreg ac origami. Er bod y casgliad blaenorol yn dal i fod yn datblygu a thyfu, rwy'n teimlo wedi bod eisiau archwilio sut y gellir mabwysiadu plygu papur i gerameg, a gweld a fyddai trosglwyddo o un cyfrwng i'r llall yn effeithiol. Rwy'n ymwybodol bod llawer o seramegwyr eraill wedi defnyddio porslen i bortreadu natur fregus papur ac mae'n addas iawn i agwedd tryloyw origami. Mae gen i ddiddordeb hefyd mewn archwilio'r defnydd o borslen, ond ar hyn o bryd mae gen i ddiddordeb yn y syniad o ddefnyddio cerameg pridd - yn enwedig slip pridd gwyn gydag ychwanegiad du / llwyd. Mae gen i ddiddordeb hefyd mewn darganfod os ydy terra cotta yn addas ar gyfer origami, a gweld os oes modd cyfuno'r deunyddiau mwy diwydiannol, pensaernïol â siapiau geometrig.

Llun gan Tim Macklen

Rwyf wedi gwneud mowld o’r dyluniad origami roeddwn wedi bod yn plygu ac yn cydosod fel rhan o briodas fy chwaer ddwy flynedd yn ôl. Ers gweithio gyda'r cynllun hwn, roeddwn yn awyddus i weld pa mor effeithiol fyddai hyn mewn cerameg. Dyma’r mowld isod, a delwedd o’r addurniadau origami crog a grëwyd mewn papur yn wreiddiol.

Mae'r mowld a gynhyrchir yn fowld dwy ran gydag ychwanegiad plwg - mae hyn wedi fy ngalluogi i gael gwared ar y slip clai dros ben wrth adael y darn i sychu o fewn y mowld gyda'r plwg. Wrth weithio ar y mowld hwn roeddwn i eisiau edrych ar blanwyr cacti a suddlon. Y gobaith yw y bydd teimlad diwydiannol y clai yn portreadu ysbrydoliaeth bensaernïol a modernaidd. Dyma'r darn a gynlluniwyd fel potyn dal blodau/cactws.

Darn arall yr wyf wedi bod yn gweithio arno yw’r darn silindrog a ysbrydolwyd gan y mudiad modernaidd. Yn yr un modd, i'r mowld blaenorol a ddisgrifiwyd uchod, rwyf wedi cynnwys plwg i'r mowld hwn. Mae'r plwg hwn yn gweithredu fel stopiwr ar gyfer y clai - ond gellir ei dynnu allan unwaith y bydd y trwch addas wedi'i gyflawni. Mae hyn wedyn yn gwneud y darn silindrog yn gysgod lamp. Nid wyf eto wedi profi effeithiolrwydd y darn hwn fel cysgod lamp - ond teimlaf y byddai'n fwy llwyddiannus mewn porslen oherwydd natur dryloyw y clai.

Yn ystod yr ychydig fisoedd diwethaf, rwyf wedi bod yn canolbwyntio ar greu darnau, gyda syniadau newydd yn ffynnu bob tro mae mowld yn cael ei gwblhau - dyma'r amser gorau i ddod o hyd i ysbrydoliaeth. Yn ystod y misoedd nesaf hoffwn hefyd greu powlenni a mygiau sy'n debyg o ran dyluniad i'r bowlen origami. Byddai'r rhain wedyn yn creu eu casgliad eu hunain. Rwy'n teimlo bod y gwaith hwn yn fwy tebyg o ran arddull i'r darnau a grëwyd yn fy ail flwyddyn o astudio. Dyluniais gwpan a soser a oedd wedi'i hysbrydoli gan Buckminster Fuller sy'n cyd-fynd â'i gilydd ac a oedd yn canolbwyntio'n fwy na'r casgliad presennol ar werthoedd sylfaenol y mudiad modernaidd. Rwy'n teimlo y gallai hyn fod yn ffordd ddiddorol i fy ngwaith ddatblygu.

Rwy'n teimlo bod creu mowldiau sy'n amlbwrpas yn ddefnydd effeithiol o'm hamser ac yn rhoi'r rhyddid i mi newid ac addasu darnau ar ôl i'r mowld gael ei greu. Mae castio â slip yn broses ailadroddus, yn ôl eu natur, felly mae cael y gallu i addasu a phersonoli darnau sy'n dod allan o'r mowldiau o ddiddordeb mawr i mi.

Rwyf wedi bod â diddordeb mewn ffurfiau celf Siapaneaidd ers y Brifysgol, ac wedi edrych ar Kintsugi, y grefft o atgyweirio crochenwaith wedi torri, fel ysbrydoliaeth ar gyfer fy nghasgliad presennol. Mae'r ffurf celf yn trwsio darnau sydd wedi torri gyda lacr wedi ei liwio neu wedi'i gymysgu â phowdr aur neu arian. Roedd gen i ddiddordeb yn athroniaeth y ffurf celf - bod y gwaith trwsio yn cael ei ystyried fel rhan o hanes y gwrthrych, yn hytrach na rhywbeth i'w guddio. Gellir cymharu hyn o fewn crefft y Gorllewin fel ‘marc y gwneuthurwr.’ Yn fwriadol, mae artist a gwneuthurwr yn gadael eu marc ar eu gwaith er mwyn i'r gynulleidfa allu gweld gwaith yr unigolion o fewn y gwrthrych. Mae Kintsugi yn dathlu'r diffygion a’r beiau, gan werthfawrogi marciau traul a marciau defnydd gwrthrych.

Mae fy ffiol onglog ddiweddaraf hefyd yn adlewyrchu'r elfen o amherffeithrwydd ac mae'n awgrymu ysbrydoliaeth mewn pensaernïaeth a geometreg. Crëwyd y darn hwn yn wreiddiol fel darn comisiynu, ond ers hynny rwyf wedi ei gynnwys fel rhan o'r casgliad gan fod cwsmeriaid yn eu hoffi. Mae'n adlewyrchu fy lluniau pensaernïol a brasluniau yn effeithiol ac yn cysylltu'r ysbrydoliaeth geometrig a cherameg draddodiadol yn fy ngwaith.

Llun gan Tim Macklen

Yn ystod yr ychydig fisoedd diwethaf rwyf wedi bod yn gwneud cais am fwy o gyfleoedd gyda fy ngwaith celf ac rwyf wedi sicrhau dwy arddangosfa newydd hyd yn hyn eleni. Mae'r rhain yn cynnwys arddangos gydag artistiaid cyfryngau cymysg eraill yn arddangosfa Bauhaus 100 yng Nghaernarfon, o fewn eu gofod celf amlddisgyblaethol newydd CARN. Mae'r arddangosfa hon yn ddathliad o fudiad Bauhaus, 100 mlynedd ers ei sefydlu ym 1919. Dyma fy narnau fel rhan o'r arddangosfa hon.

Roedd yn wych mynychu agoriad yr arddangosfa hon, a rhoi wyneb i lawer o enwau yr oeddwn wedi cysylltu â nhw fel casglwyr, orielau ac artistiaid eraill. Bydd yr arddangosfa yn cael ei dangos tan fis Medi.

Bydd yr ail arddangosfa yn Oriel Mission, Abertawe, yn ddiweddarach yn y flwyddyn. Byddaf yn arddangos fy ngwaith newydd fel rhan o arddangosfa’r Nadolig. Roedd yn deimlad ffantastig cael fy ngofyn i arddangos y casgliad newydd yn Oriel Mission, mae hyn wedi rhoi anogaeth i mi barhau â'r math hwn o waith a datblygu'r casgliad hwn ymhellach.

Rwyf hefyd yn falch o gyhoeddi fy mod wedi anfon casgliad o'm gwaith i Oriel Q yn Dundee. Mae hon yn oriel amlddisgyblaethol newydd yng nghanol Dundee, a redir gan Lucinda Middleton. Fe wnes i arddangos ochr yn ochr â'm tad fel rhan o arddangosfa o'r ddau waith yn MOMA Cymru, Machynlleth ychydig flynyddoedd yn ôl. Ar y pryd, Lucinda oedd curadur MOMA Cymru. Mae'n braf gweld y bydd fy ngwaith yn cael eu dangos ochr yn ochr ag artistiaid eraill yn yr oriel yn Dundee.

Dyna i gyd am rwan! Edrychwch allan ar Instagram a Facebook am fy ngwaith newydd gan eu bod yn datblygu'n barhaus ar hyn o bryd. Rwy'n edrych ymlaen at yr arddangosfeydd eleni ac rwy'n edrych ymlaen at weld pa gyfeiriad y bydd fy ngwaith yn datblygu yn y misoedd nesaf.

Single post: Blog_Single_Post_Widget
bottom of page